Mae nyrs yn Sbaen fu’n trin offeiriad o Sierra Leone oedd yn dioddef o Ebola wedi cael ei heintio gyda’r clefyd.

Mae’r awdurdodau yn aros am ganlyniadau ail brawf i gadarnhau a ydy hi wedi cael ei heintio.

Dyma fyddai’r achos cyntaf o rywun yn cael eu heintio y tu allan i Affrica.

Roedd y nyrs yn rhan o dîm meddygol fu’n trin offeiriad 69 oed fu farw mewn ysbyty fis diwethaf ar ôl teithio o Affrica i Madrid.

Fe ddechreuodd y ddynes ddioddef o dwymyn ac aeth i ysbyty Alcorcon yn Madrid lle mae hi’n cael ei chadw mewn uned sydd wedi’i ynysu.

Mae swyddogion iechyd yn monitro degau o bobl, gan gynnwys gŵr y nyrs, sydd wedi dod i gysylltiad â hi.

Fe fydd y Weinyddiaeth Iechyd yn cynnal cynhadledd newyddion yn ddiweddarach.