Robert Stevenson
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu am oes wedi iddo bleidio’n euog i ymosod ar ei gariad gan ei rhoi mewn coma am dair wythnos.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dy ar Heol Calfin yn ardal Ravenhill o’r ddinas ar 31 Ionawr a darganfod Kathryn Amy Lawson, 23, gydag anafiadau difrifol i’w phen.

Roedd hi wedi cael anaf difrifol i’w hymennydd pan aethpwyd a hi i’r ysbyty Treforys. Mae hi’n parhau i dderbyn triniaeth mewn uned arbenigol ac mae’r anaf wedi effeithio ar ei golwg a’i chof.

Cafodd Robert Stevenson, 40, ei arestio mewn cysylltiad â’r ymosodiad a’i gyhuddo o geisio llofruddio. Cyfaddefodd i achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad ym mis Gorffennaf.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Stevenson wedi cael dedfryd o garchar am 40 mis yn 2011 am ymosod ar gyn-gariad.

Cafodd Robert Stevenson ei ddedfrydu i garchar am oes heddiw. Bydd yn gorfod treulio o leiaf chwe blynedd a chwe mis yn y carchar ond fe allai gael ei gadw dan glo am gyfnod hirach os ydy’r awdurdodau yn credu ei fod yn peri risg i’r cyhoedd.

‘Erchyll’

Mae’r Ditectif Arolygydd, David Butt, wedi disgrifio’r ymosodiad fel un “erchyll”.

“Mae pethau fel hyn yn ddigwyddiadau prin yn Abertawe ond pan maen nhw’n digwydd maen nhw’n cael eu hymchwilio yn drylwyr a phob ymdrech yn cael ei wneud i ddod o hyd i’r rhai sy’n gyfrifol,” meddai.

Mae hefyd wedi diolch i drigolion Heol Calfin, Heol Gruffydd a Heol Awstin a chymuned Abertawe am gynorthwyo’r heddlu gyda’r ymchwiliad.