Nick Clegg
Yng Nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol, mae arweinydd y blaid, Nick Clegg, wedi dweud ei fod am weld mwy o bwerau’n cael eu rhoi i Gymru law yn llaw a’r Alban.
Dywedodd y byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gweithio i sicrhau, “bod mwy o bwerau yn cael eu rhoi i Gymru ar yr un adeg a fydd y ddeddfwriaeth ddrafft yn cael ei lunio i’r Alban ar ddechrau’r flwyddyn newydd.”
“Pan fyddwn ni’n gweithredu hyn – ac mi fyddwn ni, heb os nac oni bai – fe fydd hunanlywodraeth yn cael ei sefydlu yn yr Alban a dwi’n credu y dylen ni anelu at wneud yr un peth yng Nghymru.”
Buddsoddiad
Galwodd Nick Clegg am i fwy o bwerau gael eu rhoi i ddinasoedd ac ardaloedd yn Lloegr hefyd yn ogystal â datgan cefnogaeth i adroddiad sy’n galw am fuddsoddiad sylweddol mewn cysylltiadau trafnidiaeth yng ngogledd Lloegr.
“Byddwn ni’n benthyg arian yn gyfrifol er mwyn buddsoddi yn ein hisadeiledd,” meddai Nick Clegg.
“Dyna’r ffordd mae arweinwyr busnes am i ni wella perfformiad yr economi.”
“Mae’r Ceidwadwyr wedi dweud na fysan nhw’n gwneud hynny ac y basen nhw ond yn ariannu eu cynlluniau trwy gymryd oddi ar bobol sydd ar y cyflogau isaf.”
“Rydym ni’n cynrychioli dyfodol tecach yn y Gogledd, fyddai’n cael ei ariannu gan fuddsoddiad synhwyrol.”