Mae’r ffaith fod yr SNP yn gwrthod diystyru cynnal ail refferendwm dros annibyniaeth yn taflu “cwmwl o ansicrwydd” dros economi’r Alban, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol yr Alban.

Dywedodd Alistair Carmichael, sy’n Aelod Seneddol dros y Democratiaid Rhyddfrydol, y dylai Llywodraeth yr Alban barchu canlyniad democrataidd y bleidlais ar 18 Medi.

Galwodd Carmichael ar Nicola Sturgeon, sy’n debygol o olynu Alex Salmond fel arweinydd yr SNP, i nodi’n glir fod y cwestiwn ar annibyniaeth bellach wedi’i setlo ac na fydd yn rhoi’r mater at bleidlais gyhoeddus eto yn y dyfodol agos.
Dywedodd Sturgeon ddoe fod annibyniaeth i’r Alban yn fater o “pryd, yn hytrach nag os” erbyn hyn ac nad oedd cynnig rhagor o ddatganoli yn “ddigonol mwyach”.
Awgrymodd Salmond hefyd yn ddiweddar mewn cyfweliad y gallai’r Alban hyd yn oed “ddatgan ei hun yn annibynnol heb refferendwm yn y dyfodol”.
“Dim parch”
Ond mae hynny’n amharchu penderfyniad yr etholwyr yn y bleidlais ddiweddar, yn ôl Carmichael.
“Mae’n edrych yn debyg i mi fod Nicola Sturgeon yn ceisio dweud wrth 55% o’r etholwyr eu bod yn anghywir,” meddai’r Ysgrifennydd Gwladol yng nghynhadledd ei blaid yng Nglasgow heddiw.
“Nid yw’n dangos yr un parch y dylai democrat ddangos yn fy marn i.
“Rhaid i’r cenedlaetholwyr ddweud wrthym eu bod yn parchu’r canlyniad, rhaid iddyn nhw ddangos parch tuag at y mwyafrif o bobl yr Alban ac mae’n rhaid iddyn nhw ddweud wrthym na fyddan nhw’n mynd â ni i lawr y daith hon eto yn y dyfodol agos.”
Beirniadu camau Cameron
Roedd Carmichael hefyd yn feirniadol o ymgais David Cameron i geisio gorfodi “pleidleisiau Saesneg ar gyfer cyfreithiau Saesneg” yn San Steffan wedi canlyniad y refferendwm, heb gynnal confensiwn cyfansoddiadol yn gyntaf i ystyried y mater yn fanwl.
“Mae’r angen am newid cyfansoddiadol ar draws Lloegr a gweddill y Deyrnas Unedig yn un nad ydw i’n meddwl fod angen perswadio unrhyw Ddemocrat Rhyddfrydol,” ychwanegodd.
“Ond nid ydych yn creu ac yn cynhyrchu ar gyfer newid cyfansoddiadol drwy symud ymlaen mewn un ardal gul at fantais un blaid wleidyddol. Yn syml, ni fydd hynny yn gynaliadwy. Nid fydd yn gweithio.”