Mae protestiadau dan arweiniad myfyrwyr yn Hong Kong wedi tawelu heddiw, wrth i nifer o drigolion fynd yn ôl i’r gwaith.
Ers dyddiau mae degau o filoedd o brotestwyr wedi bod ar y strydoedd yn galw am ddiwygio democratiaeth ac i arweinydd Hong Kong, Leung Chun-ying, gamu o’r neilltu.
Ond mae cannoedd o wrthdystwyr yn parhau i wersylla ar y strydoedd, gan fynnu eu bod am barhau i bwyso ar y llywodraeth tan i swyddogion ddangos eu bod o ddifrif ynglŷn ag ymateb i’w galwadau.
Mae ysgolion wedi ailagor a nifer o weision sifil wedi dychwelyd i’r gwaith ar ôl i brotestwyr adael yr ardal tu allan i bencadlys llywodraeth y ddinas.
Fe wrthododd tua 25 o brotestwyr, y rhan fwyaf yn fyfyrwyr, symud o’r safle, a dywedodd rhai eu bod yn bwriadu aros yno am mor hir ag y gallen nhw.
Mae cannoedd o brotestwyr eraill yn parhau i aros yn ardal Mongkok lle bu gwrthdaro dros y penwythnos.
Mae rhannau o brif ffordd drwy ganol ardal fusnes yn Hong Kong yn parhau i fod ar gau.