Alice Gross
Mae disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal heddiw ar gorff dyn y credir yw Arnis Zalkalns, sy’n cael ei amau o lofruddio’r ferch ysgol Alice Gross.

Fe ddiflannodd Alice, 14, o Hanwell, yng ngorllewin Llundain ar 28 Awst a chafwyd hyd i’w chorff yn Afon Brent wythnos ddiwethaf.

Ddydd Sadwrn, daeth yr heddlu o hyd i gorff mewn coedlan yn Boston Manor Park yng ngorllewin Llundain ac maen nhw’n credu mai corff yr adeiladwr o Latfia, Arnis Zalkalns, yw’r dyn.

Roedd wedi cael ei weld yn dilyn Alice Gross ar ei feic ger y safle lle diflannodd y ferch ysgol ac nid oedd Zalkalns wedi cael ei weld ers 3 Medi.