Mae gwrthryfelwyr sy’n honni eu bod yn gweithredu yn enw’r mudiad Islamic State wedi tanio taflegrau at dre’ Gwrdaidd yng ngogledd Syria.
Mae gweithwyr dyngarol yn yr ardal yn dweud fod beth bynnag ddeg o rocedi wedi’u tanio at dre’ Kobani, ger y ffin â Thwrci.
Fe gafodd bomiau eu tanio o danciau hefyd, ynghyd â bomiau mortar, wrth i’r gwrthryfelwyr geisio llacio gafael y Cwrdiaid ar y dre’.
Yn ôl tystion, cafodd beth bynnag 16 o wrthryfelwyr IS eu lladd yn yr ardal dros nos, o ganlyniad i ymosodiadau o’r awyr gan luoedd yr Unol Daleithiau a’u cynghreiriaid. Cafodd beth bynnag 11 o Gwrdiaid hefyd eu lladd yn ystod yr ymladd.