Mae trigolion dinas Portsmouth yn cael eu rhybuddio i gadw ffenestri eu tai ar gau, wedi i dân gynnau mewn canolfan ail-gylchu yn yr ardal.
Mae mwy na 50 o ymladdwyr tân yn ceisio diffodd y fflamau mewn gwaith trin 500 tunnell o fetel sgrap. Mae’r fflamau wedi bod yn llosgi ers 8.40yb fore heddiw.
Mae llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Hampshire wedi cadarnhau fod rhybuddion wedi eu rhoi i drigolion lleol oherwydd yr arogl drwg a’r mwg trwchus – ond heb fod yn niweidiol – sy’n codi o’r safle.
“Mae’n bosib gweld y cwmwl o fwg 100 troedfedd am filltiroedd,” meddai’r llefarydd, cyn ychwanegu nad ydyn nhw eto’n gwybod beth achosododd y tân. Ond, wedi dweud hynny, dyw’r achos ddim yn cael ei drin fel un amheus.