Mae bachgen yn ei arddegau y daethpwyd o hyd iddo mewn camlas, wedi marw, ac mae’r heddlu’n trin ei farwolaeth fel un heb eglurhad iddi.
Fe gafodd Heddlu Greater Manchester eu galw am 3.10yp ddoe, yn dilyn adroddiadau fod corff wedi’i weld yng nghamlas yr Huddersfield Narrow Canal yn Stalybridge.
Fe dynnwyd y bachgen 17 oed allan, cyn ei gludo i’r ysbyty lle bu mewn cyflwr difrifol. Ond bu farw yn gynnar fore heddiw.
Mae’r heddlu bellach yn ymchwilio i amgylchiadau ei farwolaeth, ac maen nhw’n arbennig o awyddus i ddeall sut y daeth i fod yn y gamlas o gwbwl.