Mae dyn 37 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fwrgleriaeth, wedi i’r heddlu a’r gwasanaeth tân gael eu galw i’w ryddhau o adeilad yn Abertawe.
Fe gafodd Heddlu De Cymru eu galw i’r bloc o swyddfeydd ar Stryd y Castell yn y ddinas toc cyn 6yp ddoe.
Roedd yn rhaid i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ddefnyddio offer arbennig er mwyn rhyddhau’r dyn o’r tu draw i ffens diogelwch.