Alun Davies
Mae Plaid Cymru wedi galw am gryfhau perfformiad Llywodraeth Cymru ar newid hinsawdd.

Daw hyn wedi i’r Cyn-Weinidog Amgylchedd Alun Davies godi “pryderon arwyddocaol” nad yw Llywodraeth Cymru yn llawn sylweddoli pwysigrwydd newid hinsawdd.

Galwodd Alun Davies ar i Lywodraeth Cymru greu targedau statudol ar gyfer mynd i’r afael â newid hinsawdd, er iddo wrthod targedau o’r fath pan oedd ef yn Weinidog Amgylchedd.

Yr un prynhawn, beirniadodd y Cyn-Weinidog benderfyniad Llywodraeth Cymru i wario £1 biliwn ar godi darn newydd o’r M4 o gwmpas Casnewydd.

Wrth siarad mewn dadl yn y Cynulliad, dywedodd y Cyn-Weinidog Amgylchedd:

“Mae gen i rai pryderon eithaf arwyddocaol nad yw lle na phwysigrwydd newid hinsawdd yn cael ei gydnabod yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Rwy’n pryderu y gallai’r Llywodraeth hon yn hawdd ganfod ei hun gyda record waeth na Llywodraeth y Deyrnas Unedig neu unrhyw rai o’r gweinyddiaethau datganoledig eraill.

“Y cyntaf yw derbyn bod cael fframwaith statudol ar gyfer y targedau hyn, a bod yn rhaid eu cael. Cytunodd Llywodraeth Cymru i adolygu sut i reoli a gweithredu targedau, ac a fydd fframwaith statudol yn seiliedig naill ai ar ostwng allyriadau, fel yn yr Alban, neu ar sail cyllidebu carbon. Mae arnom angen sicrwydd yn awr a deall i ba gyfeiriad y bydd y Llywodraeth yn mynd a sut y bydd y fframwaith statudol hwn yn cael ei greu a’i gyflwyno.”

Ymateb Plaid Cymru

Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Gymunedau Cynaliadwy, Ynni a Bwyd Llyr Gruffydd:

“Mae’n amlwg nad oes gan feincwyr cefn y llywodraeth Lafur ei hun fawr o ffydd yn ei gallu wrth gymryd penderfyniadau, ac y mae hyn yn feirniadaeth ddamniol o berfformiad Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae’n hynod ddigywilydd fod y Cyn-Weinidog yn ceisio ymbellhau oddi wrth y penderfyniadau yr oedd ef ei hun yn gyfrifol am eu cymryd.

“Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw ers amser am i Lywodraeth Cymru fabwysiadu targedau uchelgeisiol ar gyfer trin newid hinsawdd. Mae’n cael ei dderbyn yn gyffredinol, ar y trywydd presennol, na fydd y Llywodraeth yn llwyddo i gyrraedd eu targed o  ostyngiad o 40% mewn allyriadau carbon erbyn 2020. Dyw hyn ddim yn syndod pan edrychwch ar record Llafur.

“Mae allyriadau newydd brawychus o anfentrus ar gyfer tai yng Nghymru, ynghyd ag oedi enbyd cyn creu Cynlluniau Addasu Sectorol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y sectorau sy’n llygru fwyaf yn adrodd eu hanes eu hunain. Mae diffyg unrhyw ymrwymiadau clir ar newid hinsawdd yn y Bil Lles Cenedlaethau’r Dyfodol hefyd yn gyfle a gollwyd.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu’n gynt o lawer i fynd i’r afael â newid hinsawdd os yw am fod ag unrhyw obaith o gyflawni ei ymrwymiadau.

“Rwy’n falch fod y Cyn-Weinidog o’r diwedd wedi gweld budd mabwysiadu targedau mor uchelgeisiol; mae’n bechod na wnaeth ddim am y peth pan oedd yr awenau’n ei ddwylo ef.”