Mae’r dyn a aeth a’r afiechyd Ebola i’r Unol Daleithiau, mewn cyflwr difrifol iawn yn yr ysbyty.
Mae Thomas Duncan wedi cael ei ynysy yn Ysbyty Presbyteraidd Tecsas yn ninas Dallas.
Fe deithiodd Thomas Duncan o wlad Liberia i Dallas fis diwetha’, cyn iddo ddechrau diodde’ o sumptomau’r afiechyd sydd bellach wedi lladd tua 3,400 o bobol yng ngorllewin Affrica.
Mae swyddogion iechyd yn parhau i fonitro tua 50 o bobol a allai fod wedi dod i gysylltiad gyda Mr Duncan cyn iddo ddeall ei fod yn cario’r afiechyd.