Mae adroddiadau’n dod o Irac, yn dweud fod y mudiad Islamic State wedi lladd chwech o filwyr yn nhalaith Anbar.
Mae’n dweud fod y soldiwrs wedi cael eu llofruddio oherwydd ymgyrch ymosod o’r awyr America a’r cynghreiriaid yng ngogledd y wlad.
Yn ol llygad dystion, fe gafodd y milwyr – un mewn iwnifform a phump yn eu dilladd eu hunain – eu gorchymyn i sefyll mewn rhes yn erbyn wal yn nhre’ Hit, cyn iddyn nhw gael eu saethu yn eu pennau.
Mae Hit tua 85 milltir i’r gorllewin o Baghdad, prifddinas Irac.