John Prescott - "Miliband yn methu ymosod"
Mae Ed Miliband wedi dod dan y lach gan rai o ffigyrau amlwg y Blaid Lafur, wrth i’r Ceidwadwyr ennill y blaen mewn pol piniwn newydd.

Ymysg y rhai beirniadol y mae John Prescott, cyn Ddirprwy Arweinydd Llafur, sy’n dweud fod yr arweinydd presennol yn “llawer rhy wan” wrth ymosod ar ei elynion gwleidyddol.

Roedd yr Arglwyddi Noon a Levy, hefyd, wedi beirniadu Ed Miliband yn dilyn Cynhadledd y blaid eleni.

Mae’r pol piniwn diweddara’ gan gwmni YouGov, sydd wedi’i gyhoeddi ym mhapur The Sunday Times heddiw, yn awgrymu fod David Cameron a’r Ceidwadwyr wedi cael tipyn o hwb yn dilyn cynhadledd hydref bositif a bywiog.

Mae’r gefnogaeth i’r Toriaid bellach ar 36%, gyda Llafur ar 34%, Ukip ar 13% a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bedwerydd ar 7%.