Mae canolfan newydd yn rhoi sylw i’r Beibl yn agor yn ardal Y Bala fory, 200 mlynedd wedi marw’r Parchedig Thomas Charles, un o sylfaenwyr Cymdeithas y Beibl.
Mae’r ganolfan ymwelwyr yn hen Eglwys Llanycil wedi ei thrawsnewid ar gost o £1m, ac fe fydd yn dweud hanes Mary Jones, y ferch droednoeth a gerddodd o’i chartre’ yn Llanfihangel y Pennant i gael ei chopi personol o’r Beibl.
Roedd wedi hel ei harian am chwe blynedd cyn gwneud y daith i gartre’ Thomas Charles yn nhre’r Bala.
‘Byd Mary Jones’ ydi canolfan gyntaf Cymdeithas y Beibl yng Nghymru.