Yr orymdaith, gyda'r Castell ar y dde (Llun: Emyr Young)
Fe fu 4,000 o bobol leol yn gorymdeithio trwy ganol Caerffili i roi croeso swyddogol i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd fydd yn ymweld â Chaerffili a’r Cylch yn 2015.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar dir Llancaiach Fawr ger Nelson 25 – 30 Mai 2015.

Cafodd yr orymdaith ei harwain gan fand samba y sir a Mistar Urdd i Gastell Caerffili ble cafodd y cerddwyr prynhawn o adloniant.

Dywedodd Aled Sion, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, “Cawsom ddiwrnod gwych yng Nghaerffili gyda nifer dda iawn o blant lleol wedi ymuno yn yr orymdaith.

“Mae’r brwdfrydedd sydd yn yr ardal tuag at yr Eisteddfod yn anhygoel a chriw arbennig o wirfoddolwyr yn gweithio’n galed yma.

“Os bydd yr Eisteddfod mor lwyddiannus a’r wyl gyhoeddi, mi fydd gennym Eisteddfod i’w chofio yma yng Nghaerffili a’r Cylch mis Mai 2015.”