Beirdd Her 100 Cerdd
Mae un o’r beirdd fu’n ysgrifennu yn ddi-baid am 24 awr ddoe ar gyfer ‘Her 100 Cerdd’, wedi dweud wrth golwg360 na wnaeth hi erioed ddychmygu y byddai’r profiad mor anodd.
Bu Casia Wiliam o Nefyn, Gwennan Evans o Ddyffryn Cothi, Gruffudd Owen o Bwllheli, a Llŷr Gwyn Lewis o Gaernarfon ar eu traed o hanner nos , nos Fercher, tan hanner nos neithiwr yn cyfansoddi cerddi am bynciau amrywiol – o Batagonia i refferendwm yr Alban a Lidl.
Wedi i’r her gael ei chwblhau, fe agorwyd potel o siampên.
Ond yn ôl Casia Wiliam, roedd pethau’n edrych yn “reit ddu” ar adegau.
“Wnes i ddim am eiliad ddychmygu y byddai’r her mor anodd,” meddai wrth golwg360.
“Duwcs, llond llaw o gerddi a diwrnod cyfa’ i’w gwneud nhw, dim problem. Ro’n i reit hapus wrth eistedd i lawr am hanner nos i gychwyn ar y gerdd gyntaf, ond pan ddaeth y sylweddoliad y byddai angen ysgrifennu 24 arall es i reit wan.”
Ymateb “anhygoel” y cyhoedd
Ar ei phen ei hun yr oedd Casia Wiliam yn cyfansoddi’r cerddi, gan gyfathrebu gyda’r beirdd eraill bob hyn a hyn ar wefan facebook:
“Mi gawsom ni lot o hwyl – roedd ganddo ni edefyn Facebook ar y go (fi, Gruff, Gwennan a Llŷr) trwy’r dydd, ac mi ddaethom ni at ein gilydd dros ginio, ac eto ar y diwedd er mwyn agor y botel siampên efo’n gilydd.
“Dw i’n gobeithio ein bod ni wedi sgwennu ambell beth o safon, ambell beth doniol, a bod rhai o’r cerddi a ysgrifennwyd yn arbennig ar gais, wedi plesio.
“Roedd yr ymateb gan y cyhoedd yn anhygoel, a dw i’n falch iawn o fod wedi cymryd rhan achos mae’n swnio fel ein bod ni wedi llwyddo i gael pobol, oedd ddim â llawer o ddiddordeb mewn barddoniaeth o gwbl cyn hynny, i fwynhau darllen cerddi.”
Y cerddi
Dyma ddwy gerdd gan Casia Wiliam…
Cae Pawb (Yr enw gorau dwi wedi gweld am allotments yn Gymraeg)
Mae’r cyrraedd yno’n cymryd amser,
y tsiaen yn udo, a’r sŵn newid-gêr-dolur-gwddw
yn rhygnu.
Newid lawr, arafu.
A tawn i’n synnu bob tro,
mae Cae Pawb dal yno, tu ôl i’r giatiau oer
a’r clo clap.
Dwi’n gosod y goriad, a fel gweld
plentyn am y tro cyntaf ers tro
ac ynta’ wedi tyfu ar rhyw frys gwyllt
mae’n sgwaryn wedi troi’n waedd o wyrdd.
Mae’r ffa a’r mefus mor falch o ngweld i.
Fy hun, dwi’n torchi fy llewys
ac yn trafod y diwrnod
efo nwylo.
Newid lawr, arafu.
Gadael i’r mwd fwydo rhwng bodiau
a’r pry cop tryloyw ddod i weld pwy sy’n tarfu.
Ar fy ngliniau, mae’r byd yn nes –
a thra bod bob dim yn tyfu ac yn gwthio
a ffiniau fy mywyd yn chwyddo fel torth boeth
– dwi’n sgwario ar y ddaear,
yn cael fy ngwynt ataf.
Lidl
Lidl, ti mor lyfli,
chdi a dy selsig salami.
Dwi’n licio treulio oriau yn gwthio
fy nhroli rhwng dy silffoedd
yn sygajo â’m llygaid.
Ymhyfrydu yn y gnocchi,
y bricyll a’r coulis.
O Lidl, dwi’n gwirioni
ar dy fargeinion, dy haelioni,
dy flodau, dy greision, dy amryw jariau siytni.
O a’r grawnfwyd sy’n edrych yn hynod o blaen
ond sy’n llawn siafins siocled cyrliog.
Lidl, ti mor gyforiog.
Lidl yn wir, ti’n gwybod be dwi’n licio –
y siampên rhad sy’n blasu’n ddrud –
Lidl hoff ti werth y byd!
Ond mae ‘na un peth,
sydd ‘di bod yn fy mhoeni,
fy ngwylltio braidd, yn wir, fy siomi.
Yn y môr o gawsiau, rhesi a rhesi,
ble o ble mae’r hyfryd halloumi?
Ac i wneud pethau’n waeth, fe glywais si…
si creulon, si cas, si sy’n fy nghorddi,
yn halen ar y briw, Lidl, dwi’n ofni
bod y si yn wir, felly rhaid i mi holi.
Lidl, plîs, bydd yn onest, paid oedi.
Oes yna lwyth
o halloumi yn Aldi?
Mae gweddill y cerddi i’w gweld ar www.her100cerdd2014.com