Protestwyr ar strydoedd Hong Kong
Mae’r heddlu yn Hong Kong wedi arestio 19 o bobl, y credir sydd â chysylltiadau gyda gangiau troseddol, ar ôl gwrthdaro rhwng protestwyr sy’n pwyso am ddemocratiaeth yn y diriogaeth.
Cafodd 12 o bobl a chwech o blismyn eu hanafu yn y gwrthdaro, yn ôl yr heddlu.
Roedd arweinwyr y brotest wedi canslo trafodaethau gyda’r llywodraeth ynglŷn â diwygiadau gwleidyddol ar ôl i’r gwrthdaro ddechrau bnawn ddoe yn Mong Kok.
Bu’r heddlu’n ceisio cadw trefn ar y sefyllfa wrth i’r rhai sy’n gefnogol i’r llywodraeth ymosod ar brotestwyr.
Mae degau o filoedd o bobl wedi bod yn protestio ar y strydoedd ers 26 Medi yn galw ar i arweinydd Hong Kong, Leung Chun-ying, gamu o’r neilltu, ac am ddemocratiaeth yn y diriogaeth.
Roedd ymdrechion Leung Chun-ying i geisio lleddfu’r tensiynau drwy gynnal trafodaethau gyda’r protestwyr wedi methu gan fod nifer ohonyn nhw yn anhapus ei fod yn gwrthod ymateb i’w galwadau arno i ymddiswyddo.
Maen nhw’n galw am gael dewis eu hymgeiswyr eu hunain yn yr etholiad i ddewis arweinydd Hong Kong yn 2017, ond fe wrthododd Beijing y cynnig hwnnw’r mis diwethaf.