Nick Clegg
Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn pleidleisio dros y penwythnos ynglŷn â chynlluniau ym maniffesto’r blaid i roi £1 biliwn yn ychwanegol mewn termau real tuag at y Gwasanaeth Iechyd dros y ddwy flynedd nesaf.

Fe fydd aelodau’r blaid yn cael rhoi eu barn ynglŷn â’r polisi arfaethedig yng nghynhadledd flynyddol y Democratiaid Rhyddfrydol yn Glasgow.

Mae disgwyl iddyn nhw gymeradwyo’r cynlluniau.

Dywedodd Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, y byddai’r arian ychwanegol yn cael ei roi rhwng 2016 a 2018.

Mae hefyd wedi cyhoeddi y bydd buddsoddiad ychwanegol yn y gwasanaeth iechyd yn flaenoriaeth gan y blaid yn ystod trafodaethau’r Glymblaid cyn Datganiad yr Hydref ar 3 Rhagfyr.