David Cameron
Mae David Cameron wedi gwneud addewid i ddod o hyd i’r brawychwyr fu’n gyfrifol am ladd y gweithiwr dyngarol o Brydain, Alan Henning, wrth i’w lofruddiaeth gael ei gondemnio gan arweinwyr rhyngwladol.
Cafodd fideo yn dangos llofruddiaeth Alan Henning, 47 oed, ei rhoi ar y rhyngrwyd gan y grŵp eithafol IS nos Wener.
Cafodd y cyn-yrrwr tacsi o Salford ei gipio gan IS ym mis Rhagfyr.
Dywedodd y Prif Weinidog bod ei lofruddiaeth yn “dangos pa mor farbaraidd mae’r brawychwyr yma” ac wedi rhoi addewid i wneud “popeth yn ein gallu i ddod o hyd i’r llofruddwyr a’u dwyn i gyfrif.”
Mae’r llofruddiaeth ddiweddaraf gan y grŵp wedi cael ei gondemnio gan Arlywydd Ffrainc Francois Hollande, Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama, a Chyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.
Mae’r fideo yn dangos Alan Henning yn cael ei ddienyddio. Dyma’r ail waith i wystl o’r DU gael ei lofruddio gan IS ar ôl i’r gweithiwr dyngarol David Haines gael ei ladd fis diwethaf.
Mae’r llofrudd yn siarad gydag acen Brydeinig a chredir mai ef hefyd oedd yn gyfrifol am y llofruddiaethau eraill.
Cafodd dau newyddiadurwr o America, James Foley a Steven Sotloff, hefyd eu llofruddio gan y grŵp eithafol yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Daw’r fideo wythnos ar ôl i Dy’r Cyffredin gefnogi cynnal ymosodiadau o’r awyr gan luoedd Prydain ar safleoedd IS yn Irac.
Roedd y Prif Weinidog wedi cyrraedd yn ôl i’r DU neithiwr ar ôl bod yn ymweld â lluoedd Prydain, gan gynnwys y rhai sydd wedi bod yn cymryd rhan mewn ymosodiadau o’r awyr ar IS yn Irac.
Yr wythnos hon, roedd gwraig Alan Henning, Barbara, wedi apelio ar IS i ryddhau ei gwr.
Dywed y Swyddfa Dramor eu bod yn cynnig “pob cymorth posib” i deulu Alan Henning.