Leigh Halfpenny
Mae cefnwr Cymru Lee Halfpenny wedi cyfaddef ei fod yn siomedig nad yw’n medru siarad Cymraeg, wrth iddo ddod i arfer â bywyd gyda’i glwb newydd yn Ffrainc.
Ers yr haf mae Halfpenny wedi bod yn dysgu Ffrangeg wrth geisio addasu i fywyd gyda Toulon – ac mae’n dweud fod hynny wedi gwneud iddo sylwi’i fod am ddysgu iaith ei wlad enedigol hefyd.
“Mae [Ffrangeg] llawer anoddach ei ddysgu nag oeddwn i’n ei ddychmygu,” meddai’r cefnwr wrth yr Independent. “Mae gen i frawddegau i’w dysgu bob dydd sy’n fy helpu i drwyddo.
“Wnes i feddwl y dydd o’r blaen mod i o Gymru a mod i’n siarad Ffrangeg a Saesneg. Fel Cymro balch mae gen i gywilydd dweud nad ydw i’n siarad Cymraeg, ac mae’n rhywbeth fydda i’n ceisio newid.”
Dyw Halfpenny heb chwarae eto i Toulon oherwydd anaf i’r forddwyd, ac ychydig wythnosau yn ôl fe gododd llywydd Toulon stŵr wrth awgrymu fod y clwb yn ystyried rhoi’r sac iddo gan fod y Cymro wedi cyrraedd Ffrainc gyda’r anaf eisoes, heb yn wybod iddyn nhw.
Ond mae’r ofnau yna wedi tawelu, gyda Halfpenny nawr yn gobeithio gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros bencampwyr Ewrop yn yr wythnosau nesaf.
Ac mae’n dweud fod y cyfle i chwarae gyda sêr fel Bakkies Botha, Juan Fernandez Lobbe a Bryan Habana o flaen torf enwog Toulon yn rhan fawr o’r rheswm pam symudodd o’r Gleision.
“Dim ond un chwaraeon sydd yna yn Toulon a rygbi yw hwnnw, mae disgwyl i chi ennill pob gêm,” meddai Halfpenny.
“Os yw Toulon gartref, hwnna yw prif ddigwyddiad nid jyst y penwythnos ond yr wythnos gyfan.
“Pan chi’n cyrraedd y stadiwm a gweld llwyth o gefnogwyr y tu fas dwyawr neu deirawr cyn hynny, mae e fel gêm ryngwladol. Dw i erioed wedi gweld unrhyw beth fel e; mae’n arbennig.”