Bydd y mewnwr Gareth Davies yn dychwelyd i dîm y Scarlets ar gyfer gêm ddarbi gynta’r tymor yn erbyn y Dreigiau brynhawn Sul ar Barc y Scarlets.

Davies yw prif sgoriwr ceisiau’r Scarlets hyd yn hyn y tymor hwn.  Fe gollodd y gêm yn erbyn Caeredin yr wythnos ddiwethaf ar ôl cael ei daro yn anymwybodol mewn gêm ddyddiau cyn hynny.

Bydd Kristian Phillips yn dod fewn i’r tîm ar yr asgell a Harry Robinson fydd yr asgellwr arall.  Liam Williams fydd yn dechrau fel cefnwr ac fe fethodd Michael Tagicakibau brawf ffitrwydd hwyr ac felly ni fydd yn y garfan o 23.  Un newid sydd ymysg y blaenwyr gyda Rory Pitman yn dechrau fel wythwr.

Mae Cyfarwyddwr Rygbi’r Dreigiau Lyn Jones wedi gwneud dau newid i’r tîm gurodd Benetton Treviso y penwythnos diwethaf.  T. Rhys Thomas fydd yn dechrau fel bachwr a bydd y chwaraewr rhyngwladol Ian Gough yn dechrau yn yr ail reng yng nghwmni Rynard Landman.

Mi fydd y gêm yn fyw ar S4C am bedwar o’r gloch.

Tîm y Scarlets

Olwyr – Liam Williams, Harry Robinson, Gareth Owen, Scott Williams (Capten), Kristian Phillips, Rhys Priestland a Gareth Davies.

Blaenwyr – Rory Pitman, John Barclay, Aaron Shingler, Johan Snyman, Jake Ball, Samson Lee, Emyr Phillips a Rob Evans.

Eilyddion – Kirby Myhill, Phil John, Rhodri Jones, George Earle, James Davies, Aled Davies, Steven Shingler a Adam Warren.

Tîm y Dreigiau

Olwyr – Lee Byrne (Capten), Tom Prydie, Ben John, Ashley Smith, Hallam Amos, Jason Tovey a Jonathan Evans.

Blaenwyr – Taulupe Faletau, Nic Cudd, Andy Powell, Rynard Landman, Ian Gough, Dan Way, T.Rhys Thomas a Boris Stankovich.

Eilyddion – Elliot Dee, Hugh Gustafson, Lloyd Fairbrother, James Thomas, Lewis Evans, Richie Rees, Angus O’Brien a Aled Brew.