Mae Jeremy Clarkson wedi ei gyhuddo o wylltio pobol Yr Ariannin yn fwriadol trwy yrru Porsche drwy’r wlad gyda’r rhif plât H982 FKL – mae’r Wasg yno wedi cymryd y cofrestrif fel cyfeiriad at Ryfel y Falklands yn 1982.
Ond yn ôl y BBC “cyd-ddigwyddiad llwyr” oedd y llythrennau a’r rhifau ar y car.
Yn ôl un papur newydd Patagonaidd roedd car Clarkson yn “bryfoclud” ac mae papur newydd arall wedi dweud bod Rhyfel y Falklands yn “fater sensitif iawn”.
Mae adroddiadau fod car Clarkson wedi ei bledu â cherrig wrth iddo yrru’r Porsche drwy’r Ariannin tra’n ffilmio eitem ar gyfer Top Gear.
Credir bod Clarkson ar ei rybudd olaf yn y BBC oherwydd sawl digwyddiad dadleuol. Yn gynharach eleni roedd fideo ohono’n ymddangos i fod yn hiliol.
Bu farw 649 o filwyr Yr Ariannin a 255 o fyddin Prydain yn ystod Rhyfel y Falklands yn 1982.