David Cameron
Mae Prif Weinidog Prydain wedi cydnabod bod y lluoedd arfog wedi “talu pris uchel” am ddod â “sefydlogrwydd” i Afghanistan yn ystod y 13 mlynedd ddiwetha.

Mae wedi addo hefyd na fydd lluoedd gwledydd Prydain yn dychwelyd i ymladd yn y wlad.

Fe ddaeth y sylwadau wrth i David Cameron ymweld yn annisgwyl ag Afghanistan er mwyn cwrdd â Phrif Weinidog newydd y wlad a diolch i’r milwyr.

Ashraf Ghani yn diolch

Cyn yr ymweliad, dywedodd y Prif Weinidog, Ashraf Ghani, mewn cynhadledd i’r wasg y byddai pobol Afghanistan yn cofio bod Prydain wedi eu cefnogi, gan fynnu bod ymgyrch y fyddin wedi cadw Llundain yn ddiogel.

Fe ddiolchodd i deuluoedd y 453 o filwyr Prydeinig a gafodd eu lladd yn y rhyfel yn erbyn y Taliban yn ystod y blynyddoedd diwetha’.

David Cameron yw’r arweinydd cyntaf i gwrdd â Phrif Weinidog newydd Afghanistan.