Miliband - dim hwb wedi cynhadledd
Mae pôl piniwn wedi rhoi’r Ceidwadwyr ar y blaen i Lafur am y tro cynta’ ers dwy flynedd a hanner.
Yn ôl yr arolwg barn gan YouGov i bapur newydd y Times, fe fyddai 35% o bobol yn pleidleisio tros y Ceidwadwyr pe bai’r etholiad cyffredin yn digwydd yn awr.
Mae hynny un pwynt ar y blaen i Lafur – y tro cynta’ i’r Ceidwadwyr arwain ers cyn eu cyllideb aflwyddiannus ym mis Mawrth 2012.
Ond mae YouGov eu hunain yn rhybuddio mai dim ond un arolwg yw hwn ac mae’n mynd yn groes i rediad eu polau nhw eu hunain, sy’n gyson yn gosod Llafur ychydig ar y blaen.
Effaith y cynadleddau
Fe allai’r arolwg fod yn eithriad neu’n arwydd o hwb i’r Ceidwadwyr yn union wedi eu cynhadledd flynyddol ac araith y Prif Weinidog, David Cameron.
Mae’r pôl yn dangos hefyd fod pobol yn cefnogi cynlluniau’r Ceidwadwyr i godi trothwy talu treth incwm a’r trothwy ar gyfer treth uwch – er fod llawer llai yn credu y bydd hynny o elw iddyn nhw.
Ond, yn ôl Cyfarwyddwr YouGov, Peter Kellner, mae’n newyddion drwg i Lafur nad yw’r gefnogaeth i’w harweinydd, Ed Miliband, wedi cynyddu ar ôl eu cynhadledd nhwthau – yn groes i’r hyn ddigwyddodd y llynedd.
Fe fyddai arolygon dros y dyddiau nesa’, meddai, yn dangos a oedd yr un arolwg yma yn ddechrau ar duedd.