Mae ymgyrchwyr yn hawlio buddugoliaeth anferth mewn refferendwm i achub ysbyty yng ngogledd Cymru.
Roedd tua 3,500 o bobol wedi pleidleisio ac, yn ôl yr ymgyrch i achub Ysbyty Gymunedol y Fflint, roedd 99.3% o blaid.
Mewn rhai lleoedd, roedd pobol yn ciwio i bleidleisio yn y refferendwm brynhawn ddoe a gyda’r nos – yn ôl y trefnwyr, roedd tua 37% o’r etholwyr wedi cymryd rhan.
Y cwestiwn
Cyngor y dref oedd yn talu am y refferendwm a gafodd ei gynnal o dan ran o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Roedd yn gofyn a oedd pobol o blaid neu yn erbyn ailagor gwelyau tros nos ar gyfer cleifion yn Y Fflint – roedd 18 gwely yn yr Ysbyty Gymunedol.
Mae’r ymgyrchwyr wedi bod yn protestio ers dwy flynedd yn erbyn penderfyniad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gau’r ysbyty – hynny’n rhan o ad-drefnu ar draws gogledd Cymru a chau adnoddau mewn mannau eraill hefyd.
‘Pwysau moesol’
Does dim rhaid i’r Bwrdd Iechyd gymryd unrhyw sylw o’r canlyniad ac maen nhw’n dadlau y bydd canolfan iechyd newydd yn y dref yn ateb pryderon y bobol.
Ar ôl y canlyniad, fe ddywedodd cadeirydd yr ymgyrch fod yna “bwysau moesol” ar y Bwrdd i barchu’r canlyniad.