Y Cynulliad - 'mwy o rym, mwy o reoleiddio' meddai Ffederasiwn
Mae’r corff sy’n ymgyrchu tros fusnesau bach yng Nghymru wedi galw ar y Llywodraeth i osod llai o gyfyngiadau arnyn nhw.

Maen nhw wedi cyhoeddi adroddiad yn gofyn am well rheoleiddio yn y maes, gan alw am weinidog gyda chyfrifoldeb arbennig am hynny.

Yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach, mae angen i lywodraeth drafod gyda busnesau wrth llunio rheolau a rheoliadau er mwyn osgoi problemau.

‘Cynyddu’

Mae’r adroddiad, Gwell Rheoleiddio, yn dweud bod cynnydd mewn rheoliadau’n golygu mwy o waith a chostau i fusnesau bach.

Maen nhw hefyd yn honni bod rheoleiddio wedi cynyddu wrth i’r Cynulliad yng Nghaerdydd ennill rhagor o rym.

Mewn cyfweliad ar Radio Wales, fe ddywedodd Pennaeth Materion Allanol y Ffederasiwn yng Nghymru, Iestyn Davies, mai galw am well rheoleiddio yr oedden nhw nid ei diddymu rheoleiddio’n llwyr.