Mae dyn oedd ar fin wynebu pedwar cyhuddiad o geisio llofruddio wedi cael ei ganfod yn farw yn y carchar.
Roedd disgwyl i William O’Mara ymddangos gerbron Llys y Goron Preston ddydd Llun yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau ar Fedi 20, gan gynnwys marwolaeth dyn 42 oed.
Cafodd yr heddlu eu galw ar Fedi 20 yn dilyn adroddiadau bod dynes 32 oed wedi cael ei tharo dros ei phen gyda photel.
Roedd O’Mara wedi’i gyhuddo o yrru i ffwrdd yn fuan wedyn, cyn taro yn erbyn car arall ger maes carafanau.
Bu farw dyn 42 oed yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad hwnnw.
Yn ddiweddarach y noson honno, cafodd dyn 53 oed ei daro gan gar tra’n cerdded gyda’i gi yn y cyffiniau.
Yn y pedwerydd digwyddiad, cafodd car oedd yn cael ei yrru gan ddynes 36 oed ei daro, a dioddefodd hi anafiadau i’w chefn.
Cafodd O’Mara ei arestio’n ddiweddarach a’i gyhuddo o bedwar achos o geisio llofruddio, niweidio’n fwriadol, niwed corfforol difrifol bwriadol, ymosod ar blismon a gwrthod rhoi sampl.