Protestwyr yn Hong Kong
Mae degau o filoedd o bobol sy’n protestio am hawliau democrataidd yn Hong Kong yn mynnu bod llywodraeth y rhanbarth yn ymateb i’w galwadau erbyn dydd Mercher, 1 Hydref.
Mae’r protestwyr, sydd wedi meddiannu rhannau helaeth o’r ddinas mewn dull heddychlon, hefyd am weld yr arweinydd presennol Leung Chun-ying yn ymddiswyddo.
Galw am gael dewis eu hymgeiswyr eu hunain yn etholiadau sy’n digwydd yn 2017 mae’r protestwyr, ond fe wrthododd Beijing y cynnig hwnnw’r mis diwethaf.
O ganlyniad, mae’r brotest wedi arwain at gau rhai ysgolion yn Hong Kong a chanslo teithiau bws, sy’n ergyd fawr i’r ddinas am mai trafnidiaeth gyhoeddus yw’r brif ffordd o deithio yno.
Mae’r brotest yn cael ei gweld fel yr ymdrech fwyaf i herio penderfyniad Beijing i gyfyngu ar hawliau democrataidd y trigolion.
Dydd Mercher yw Diwrnod Cenedlaethol China, ac mae disgwyl y bydd hyd yn oed mwy o bobol allan ar y strydoedd bryd hynny.