John Cantlie yn fideo IS
Mae eithafwyr Islamaidd wedi rhyddhau fideo arall sy’n dangos y gwystl o Brydain John Cantlie.
Dyma’r drydedd fideo bropaganda sy’n dangos y newyddiadurwr.

Yn y fideo, sy’n para pum munud a hanner, mae John Cantlie i’w weld yn darllen datganiad gan feirniadu’r Arlywydd Barack Obama am ei strategaeth i gynnal ymosodiadau o’r awyr ar safleoedd y grŵp eithafol IS.

Mae John Cantlie wedi gweithio i bapurau newydd gan gynnwys y Sunday Times.