Mae Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig wedi rhybuddio yn erbyn rhagor o doriadau i wasanaethau cyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei chyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn y siambr heddiw.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd rhagor o arian i’r Gwasanaeth Iechyd ond bydd hynny ar draul adrannau eraill fel awdurdodau lleol. Y gyllideb ar gyfer 2015-16 yw £15.1 biliwn.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyllid, Alun Ffred Jones, bod y cynlluniau ar gyfer M4 newydd yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn gallu dod o hyd i arian pan fydd yr “ewyllys yno” a bod angen cyllideb “sy’n gallu darparu ar gyfer Cymru gyfan.”

Dywedodd Nick Ramsay, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros gyllid, bod angen i’r Llywodraeth wneud yn siŵr bod y Gwasanaeth Iechyd yn cael siâr deg o’r arian ac “osgoi ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol” o gael Gwasanaeth Iechyd (GIG) sy’n cael llai o arian na gweddill y DU.

Meddai Alun Ffred Jones AC: “Mae polisi llymder Llywodraeth y DU yn cael effaith ddinistriol ar wasanaethau cyhoeddus. Mae’n destun pryder bod pob un o bleidiau gwleidyddol y DU wedi cytuno bod nifer o flynyddoedd eto o’n blaen.

“Mae’r hyder yng ngallu’r byrddau iechyd i reoli eu harian yn isel, ac mae Llywodraeth Cymru yn dilyn strategaeth llaw-i-gennau lle mae’n llenwi’r bylchau, yn hytrach na gosod cynlluniau sefydlog ar gyfer y dyfodol.

“Mae angen i ni weld hyn yn cael ei rhoi ar waith mewn cyllideb sy’n gallu darparu ar gyfer Cymru gyfan.”

Meddai Nick Ramsay AC: “Yn 2010, er gwaethaf y gyllideb iechyd yn cael ei diogelu mewn rhannau eraill o’r DU, penderfynodd gweinidogion Llafur Cymru dorri cyllideb y GIG yng Nghymru.

“Mae toriadau i’r GIG gan Lafur wedi taro cleifion yn galed ac mae nifer fawr o dargedau perfformiad wedi cael eu methu.

“Rhaid i Weinidogion Llafur osgoi ailadrodd eu camgymeriadau yn y gorffennol sydd wedi rhoi cymaint o bwysau ar staff gweithgar a gostwng safonau cleifion.”