Fe fydd y gwefannau cyntaf .cymru a .wales yn mynd yn fyw heddiw.
Ymysg y cyntaf i ddatgan eu hunaniaeth Gymreig ar-lein fydd Golwg 360, Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac S4C.
Yn ymuno a nhw wrth newid eu parthau bydd Media Wales, gyda’u gwefannau Wales Online a’r Daily Post yn trosglwyddo drosodd i’r parthau newydd, Undeb Rygbi Cymru, Clark’s Pies, Bloc, Gwalia, Atlantic PLC, Orchard a Portmeirion.
Bydd yr ail gyfnod cofrestru, sy’n rhoi blaenoriaeth i fusnesau yng Nghymru, yn dechrau ym mis Tachwedd a bydd y cyfnod cofrestru i’r cyhoedd yn dechrau ar Ddydd Gŵyl Dewi 2015.
Wrth groesawu’r parthau newydd, dywedodd Llywydd y Cynulliad, Y Fonesig Rosemary Butler AC: “Mae cydnabyddiaeth brand yn allweddol i allu hyrwyddo gwaith a diddordebau sefydliadau a busnesau’n llwyddiannus. Fe fydd brand .wales/.cymru o fudd mawr i sefydliadau Cymraeg wrth iddynt ymdrechu i gael sylw ar draws y byd.
“Dyma ddatblygiad cyffrous a chadarnhaol i Gymru. Rwy’n falch bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cymryd rhan flaengar yn y fenter hon wrth gytuno i fod yn un o’r ‘mabwysiadwyr cynnar’ ar gyfer y parthau newydd.”