Llys y Goron Caerdydd
Mae mam Darrell Simester wedi bod yn rhoi tystiolaeth heddiw yn yr achos yn erbyn tad a mab sydd wedi eu cyhuddo o’i orfodi i weithio heb dâl ar eu fferm.
Dywedodd Jean Simester, 63 oed, bod ei mab yn edrych fel “hen ddyn bregus” pan welodd ef am y tro cyntaf mewn 13 mlynedd.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Darrell Simester o Kidderminster wedi cael ei gadw yn erbyn ei ewyllys mewn amodau ofnadwy ar fferm ger Casnewydd.
Clywyd yn gynharach yn yr achos bod Darrell Simester wedi gorfod gweithio 15 awr y dydd, heb dâl, ar y fferm a honnir ei fod wedi gorfod cysgu mewn sied gyda llygod mawr.
Mae Daniel Doran, 67, a’i fab David, 42, o’r fferm o’r enw Cariad, yn gwadu cyhuddiad o orfodi Darrell Simester i gwblhau gwaith ar eu tir yn erbyn ei wirfodd.
Dywedodd Jean Simester wrth y llys heddiw nad oedd yn gwybod a oedd ei mab yn farw neu’n fyw.
Cafodd Darrell Simester ei weld gan ei rieni ddiwethaf yn 2000 pan oedd yn byw gyda theulu lleol o’r enw y Loveridges.
Clywodd y llys bod ganddo “ofn” y Loveridges a rhedodd i ffwrdd tra ar wyliau gyda nhw ym Mhorthcawl.
Yn ddiweddarach cafodd ei weld gan aelod o deulu’r ddau ddiffynnydd pan oedd yn cerdded ar ffordd ddeuol ac aeth i weithio ar eu fferm.
Dywedodd Jean Simester ei bod wedi cael sicrwydd bod ei mab yn “derbyn gofal” rhywle yng Nghymru a’u bod yn cadw mewn cysylltiad dros y ffôn i ddechrau.
Fodd bynnag, dywedodd Jean Simester y byddai’n mynd yn syth “i beiriant ateb” yn ddiweddarach ac y byddai ei mab yn ei ffonio hi.
Er iddi ofyn am ei rif ffôn, dywedodd nad oedd o’n “cael” gwneud hynny.
Ychwanegodd mai’r tro diwethaf iddi siarad gydag o cyn ei ddarganfod oedd ar noswyl Nadolig 2008 tra bod ei theulu ar wyliau yn Sbaen.
Yn 2012, dechreuodd ffrind ysgol i Darrell Simester grŵp Facebook ac fe wnaeth hynny arwain at wefan newyddion Wales Online i gysylltu â nhw am yr achos wedi iddyn nhw ddarganfod ei fod yn byw yn ardal Caerdydd.
Clywodd y llys bod newyddiadurwr, Claire Hutchison, wedi sgwennu stori yn y Western Mail a’r South Wales Echo am y Simesters yn ceisio dod o hyd Darrell – ac fe wnaeth hynny arwain at y teulu’n dod o hyd iddo ar y fferm
Dywedodd Jean Simester ei bod yn “ddiolchgar” am help y papur newydd ond dywedodd eu bod nhw wedyn wedi cael eu “poenydio” gan y wasg.
Clywodd y llys fod y teulu wedi derbyn £4,000 ar ôl gwerthu eu stori i bapur newydd the Sun.
Gofynnwyd i Jean Simester gan y bargyfreithiwr ar ran yr amddiffyniad pam nad oedd yr arian yng nghyfrif banc ei mab, ond dywedodd ei bod hi wedi ei roi o’r neilltu iddo.
Fe wnaeth hi hefyd wadu bod gan ei mab broblem gamblo.
Yn gynharach heddiw, roedd brawd Darrell Simester, Duncan, wedi rhoi tystiolaeth gan ddweud bod ei frawd wedi achosi “cythrwfl neu anhawster” i’w rieni drwy ddychwelyd adref i fyw.
Mae’r achos yn parhau.