Ann Maguire
Daeth bron i 2,000 o bobl ynghyd heddiw ar gyfer gwasanaeth coffa i’r athrawes Ann Maguire a gafodd ei thrywanu mewn ysgol yn Leeds.
Roedd tua 1,200 o ddisgyblion, cydweithwyr ac aelodau o’i theulu wedi ymgynnull yn Neuadd y Ddinas yn Leeds gyda 500 o bobl eraill yn gwylio’r gwasanaeth y tu allan ar sgriniau mawr.
Bu farw Ann Maguire, 61 oed, ar ôl cael ei thrywanu nifer o weithiau mewn ymosodiad yng Ngholeg Corpus Christi yn Leeds ym mis Ebrill wrth iddi ddysgu gwers Sbaeneg.
Roedd hi wedi bod yn gweithio yno ers 40 mlynedd.
Bu nifer yn rhoi teyrnged iddi yn ystod y gwasanaeth gan ddisgrifio ei “chyfraniad arbennig i addysg” yn Leeds.
Mae cronfa addysg Ann Maguire wedi cael ei sefydlu er cof am yr athrawes a fydd yn ariannu datblygiad personol pobl ifanc drwy gerddoriaeth, drama, iaith a dawns.
Mae bachgen 15 oed wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio Ann Maguire. Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn y llys eto ym mis Tachwedd.