Prifysgol Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwneud un o’r buddsoddiadau mwyaf yn ei hanes ac wedi gwario £3.6m ar uwchraddio cyfleusterau dysgu ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

Cafodd deg ystafell ddarlithio yn Adeilad Llandinam y Brifysgol, cartref yr Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear, eu huwchraddio.

Rhan arall o’r gwaith oedd gosod yr offer clyweledol diweddaraf ym mhob un o’r ystafelloedd er mwyn recordio darlithoedd i fyfyrwyr fedru gwrando’n ôl arnyn nhw.

Y Pensaer lleol, Nia Jeremiah, a Rheolwr Dylunio a Datblygu Gofod Dysg y brifysgol, Nigel Thomas, Nigel Thomas, oedd yn gyfrifol am arwain y gwaith.

‘Buddsoddiad mwyaf yn ei hanes’

“Mae Aberystwyth yn cynnal un o’i rhaglenni buddsoddi mwyaf yn ei hanes ers ei sefydlu 142 mlynedd yn ôl,” meddai’r Dirprwy Ganghellor, Elizabeth France.

“Mae’r cynnydd mewn boddhad myfyrwyr ag ansawdd yr addysgu a’r adnoddau dysgu a welwyd yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol diweddaraf (NSS) yn dangos yn glir fod y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yn hyn yn cael effaith fuddiol ar y profiad dysgu.

“Mae’r datblygiadau diweddaraf yn cynrychioli cam pellach sylweddol ac yn adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd eisoes wedi ei wneud.”