Mae dyn wnaeth yrru negeseuon bygythiol ar Twitter i’r Aelod Seneddol Stella Creasy, yn bygwth ei threisio, wedi cael ei garcharu am 18 wythnos.

Fe wnaeth Peter Nunn, 33, o Fryste, dargedu Stella Creasy wedi iddi ddatgan cefnogaeth i ymgyrch Caroline Criado-Perez i gael llun o Jane Austen ar bapur £10.

Wrth iddo gael ei ddedfrydu yn Llundain, dywedodd yr erlynydd, Alison Morgan, fod y negeseuon wedi cael “effaith sylweddol” ar Stella Creasy, wnaeth achosi iddi bryderu am ei diogelwch hi a’i theulu.

Yn ddiweddarach, dywedodd yr AS Llafur mewn datganiad y dylai’r heddlu gael gwell hyfforddiant ar sut i adnabod y risg posib i’r rhai sy’n cael eu bygwth.

Roedd Peter Nunn wedi anfon negeseuon bygythiol i Caroline Criado-Perez hefyd ac mae hi wedi disgrifio ei theimladau am ddwyn cyhuddiad o stelcian yn ei erbyn.