Arlywydd Catalwnia, Artur Mas
Mae Llywodraeth Sbaen wedi gwneud cais swyddogol i Lys Cyfansoddiadol y wlad yn gofyn iddo ddyfarnu nad oes gan Gatalwnia yr hawl i gynnal refferendwm ar annibyniaeth.

Dadl Sbaen yw na all y Catalaniaid benderfynu eu tynged ar eu pen eu hunain, gan y byddai’n effeithio ar Sbaen gyfan.

Ond mae arweinydd Catalwnia, Artur Mas , wedi cymeradwyo refferendwm ar 9 Tachwedd gan ddweud y dylai bod ganddyn nhw’r hawl i gael penderfynu a ydyn nhw am dorri’n rhydd o Sbaen.

Mae cais Sbaen i’r Llys Cyfansoddiadol yn debygol o greu oedi cyn y gall y refferendwm gael ei gynnal.

Mae Catalwnia yn un o ardaloedd fwyaf cyfoethog a diwydiannol Sbaen.