Mae milwr a dyn cyffredin wedi’u lladd yn nwyrain Wcrain heddiw, wrth i rebeliaid barhau i ymosod – a hynny er gwaetha’ cadoediad a gafodd ei sefydlu dair wythnos yn ôl.

Fe gafodd dyn cyffredin ei ladd, a 16 arall eu hanafu, wedi ymosodiad bom mortar yn nhre’ Shchastya a ddifrododd ysbyty leol ac ysgol.

Fe gafodd y milwr ei ladd, ac wyth o bobol eraill eu hanafu, o fewn 24 awr. Dyw’r gwasanaeth gwybodaeth yn yr Wcrain ddim wedi rhyddhau mwy o wybodaeth am yr ymosodiad hwnnw, na dweud yn lle’n union y digwyddodd o.

Mae gwrthryfelwyr yn dal ati i danio bomiau yn ardal maes awyr Donetsk.

Mae mwy na 3,500 o bobol wedi cael eu lladd yn y brwydro rhwng lluoedd yr Wcrain a gwrthryfelwyr â chefnogaeth Rwsia.