Mae awyrennau Llu Awyr Prydain wedi dechrau ar eu cyrch cynta’ yn erbyn gwrthryfelwyr Islamic State (IS) yng ngogledd Irac.

Mae dwy awyren gollwng bomiau, Tornado GR4, gyda chefnogaeth awyren danwydd Voyager, wedi codi o faes RAF Akrotiri yng Nghyprus.

Mewn datganiad y pnawn yma, cadarnhaodd y Weinyddiaeth Amddiffyn: “Yn dilyn pleidlais y Senedd ddoed, mae awyrennau Tornado yn dal i hedfan dros Irac, ac maen nhw bellach yn baros i gael eu defnyddio i ymosod pan fydd targedau dilys yn cael eu hadnabod.

“Am resymau diogelwch amlwg, fyddwn ni ddim yn rhyddhau datganiadau cyson yn dweud lle’n union mae’r awyrennau, ond fe fyddwn ni’n diweddaru’r wybodaeth fydd ar gael pan fydd hi’n addas i ni wneud hynny.”