Mae beth bynnag 40 o gerddwyr a dringwyr wedi eu hanafu wedi ffrwydriad dramatig llosgfynydd yng nghanlbarth Japan.

Mae’r 40 yn sownd mewn ardal anghysbell yr oedd gweithwyr achub yn methu â’i chyrraedd. Mae saith o bobol eraill ar goll wedi’r digwyddiad yn gynharach heddiw.

Roedd 32 o’r 40 wedi diodde’ anafiadau difrifol, a saith o’r rheiny wedi bod yn anymwybodol am sbel.

Roedd hi’n rhy beryglus i heddlu, ymladdwyr tân a’r gweithwyr achub i gyrraedd yr ardal ar ynys Honshu mewn hofrennydd, gan fod y cymylau o lwch yn yr aer yn ei gwneud yn amhosib i hedfan.