Mae ditectifs sy’n chwilio am leidr yn Swydd Amwythig er mwyn ei ddychwelyd i’r carchar, yn dweud fod ei blant hefyd ar goll.

Mae Heddlu West Mercia yn rhybuddio’r cyhoedd i beidio â mynd yn agos i James Delaney, 27 oed, o Telford. Fe gafodd ei garcharu yn 2011 am ladrata, ac fe gafodd ei ryddhau ar drwydded ym mis Rhagfyr y llynedd.

Mae’r heddlu’n credu y gallai fod gyda’i bartner 25 oed a’u plant, ac maen nhw’n trin y plant fel rhai “ar goll” bellach.

“Rydyn  ni’n pryderu am y teulu i gyd, ond yn arbennig am y plant,” meddai llefarydd ar ran Heddlu West Mercia.

“Y gred ydi fod James Delaney yn ardal Sparkbrook neu Moseley yn Birmingham.”