Mae Bwrdd Iechyd wedi cyhoeddi ychydig mwy o fanylion ynglyn â chynllun ad-drefnu uned gofal dwys yn Llanelli.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dweud mai prif staff meddygol y bwrdd sy’n gyfrifol am baratoi’r cynllun ar gyfer Ysbyty’r Tywysog Phillip yn y dre’, ac mae wedi addo y bydd cleifion difrifol wael yn cael eu gweld gan ymgynghorydd ar unwaith dan drefn newydd.

“Mae pobol yn ardal Llanelli yn teimlo yn gryf am eu hysbyty lleol ac rydym am fod yn gwbl eglur nad yw’r newidiadau hyn yn golygu ein bod yn gwneud llai ond yn hytrach ein bod yn gwneud pethau’n wahanol,” meddai’r Dr Sian Lewis, Rheolwr y cynllun.

“Fe fydd Ysbyty Tywysog Philip yn parhau i ddarparu gofal brys ddydd a nos, saith niwrnod yr wythnos.”

O fewn y flwyddyn ddiwetha’, fe fu 33,699 o gleifion wedi ymweld â’r uned gofal brys – roedd tua 6,500 o’r rheiny’n achosion difrifol. Fe gafodd mwy na 400 o’r rhain eu cyfeirio i ysbyty arall.

Dan y drefn newydd, fe fyddai’r achosion brys yn cael eu cyfeirio’n syth i uned feddygol arbenigol, gan leihau’r amser aros a gofalu bod cleifion yn cael eu hasesu yn gynt.