Mae dyn 20 oed wedi cael ei arestio wedi i bedwar arf a bwledi gael eu darganfod mewn ty yng ngorllewin Llundain.
Fe fu swyddogion Scotland Yard yn chwilio’r cyfeiriad yn Notting Hill am 1 o’r gloch fore ddoe. Roedden nhw’n gweithredu ar wybodaeth yr oedden nhw wedi’i derbyn.
Pan aeth ditectifs i mewn i Sandbourne House yn Dartmouth Close, fe ddaethon nhw o hyd i ddau wn llaw, dau refolfer yn llawn bwledi, a mwy o fwledi.
Fe gafodd y dyn 20 oed ei arestio yn y man a’r lle, ac mae’n parhau yn y ddalfa yng nghanol Llundain.