Mae llosgfynydd wedi ffrwydro yng nghanolbarth Japan, gan anfon cwmwl mawr o lwch i’r awyr.

Fe ffrwydrodd Mynydd Ontake toc wedi hanner dydd heddiw, a hithau’n ddiwrnod heulog a chlir.Mae rhybudd yn gofyn i ddringwyr a cherddwyr i osgoi’r ardal.

Mae’r gwasanaeth darlledu NHK yn Japan yn dweud fod rhai pobol wedi’u hanafu, ond does dim mwy o fanylion am ba fath o anafiadau na pha mor wael ydyn nhw.

Mae adrodddiadau hefyd yn nodi fod pobol wedi cael eu symud o gaban mynydd.

Mae’r mynydd 10,062 troedfedd (3,067m) rhwng copaon Nagano a Gifu ar y grib o fynyddoedd yn Honshu, prif ynys Japan.