Artur Mas, arlywydd Catalunya
Mae arlywydd rhanbarth Catalunya yng ngogledd-ddwyrain Sbaen wedi galw am refferendwm ar annibyniaeth.
Mae llywodraeth Sbaen yn mynnu y bydd y refferendwm, sydd i’w gynnal ar Dachwedd 9, yn anghyfreithlon.
Ond mae arweinydd Catalynua, Artur Mas, yn dal at ei fwriad i gasglu barn y bobol, ac mae ganddo gefnogaeth arweinwyr gwleidyddol eraill y rhanbarth.
Mae disgwyl i lywodraeth Sbaen gynnal cyfarfod cabinet arbennig fory er mwyn trafod y mater.