Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o blaid gyrru lluoedd arfog Prydain i ymuno yn yr ymosodiadau ar fudiad milwrol IS yn Irac.

Cafodd y bleidlais ei phasio yn dilyn saith awr o drafod mewn dadl frys yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.

Roedd 524 o blaid bomio, a 43 o Aelodau Seneddol yn gwrthwynebu – gan gynnwys yr AS Hywel Williams o Blaid Cymru ac AS Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn.

Bydd awyrennau milwrol Prydeinig rŵan yn ymuno yn y cyrchoedd awyr dan arweiniad yr Unol Daleithiau
Prif Weinidog Prydain David Cameron
 ac mae’n bosib y gall hynny ddigwydd mor fuan â dydd Sul.

Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon, wedi rhybuddio y gallai’r ymladd barhau yn Irac am ddwy neu dair blynedd.

Irac nid Syria

Ar hyn o bryd, fydd ymosodiadau Prydain ar IS ddim yn digwydd yn Syria – byddai hynny’n cael ei weld fel ymdrech i roi cymorth i weinyddiaeth yr Arlywydd Assad, sydd wedi cael ei gondemnio’n llym gan wledydd y Gorllewin.

Mae hefyd yn adlewyrchu’r ffaith fod aelodau seneddol yn y gorffennol wedi gwrthod ymyrryd yno.

Yn Irac hefyd, mae’r Cwrdiaid a llywodraeth y wlad wedi gofyn am gymorth rhyngwladol.

‘Hanfodol’

Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud ei bod yn hanfodol gorchfygu IS, sydd bellach yn rheoli rhan helaeth o’r Dwyrain Canol.

Fe ddywedodd David Cameron yn gynhrach heddiw bod posibilrwydd o ymestyn y cyrch i fomio Isis yn Irac i Syria hefyd, gan ddweud nad oes unrhyw rwystr cyfreithiol dros newid ffocws yr ymgyrch.

Yn ôl yr Arlywydd Obama, maen’r mudiad eithafol yn fygythiad i’r Gorllewin.