Cyn i ASau benderfynu os fydd Prydain yn ymuno hefo ymosodiadau ar fudiad IS yn Irac, mae America wedi cyhoeddi eu bod wedi bomio pedwar cerbyd milwrol yn Syria ac wedi difrodi un arall mewn ymosodiadau o’r awyr dros nos.
Dywedodd y Pentagon fod tua saith o ymosodiadau hefyd wedi eu cynnal ar IS yn Irac, gan gynnwys un ym mhrif ddinas y wlad, Baghdad.
Mae Llywodraeth Denmarc eisoes wedi dweud y bydd yn gyrru awyrennau i ymuno ag ymgyrch America.
Fe fydd San Steffan yn cyhoeddi a fydd Prydain yn ymuno a’r cyrchoedd awyr yn Irac am tua phump o’r gloch heddiw.