Mae ymgyrch ar droed i achub cannoedd o bobol sydd yn gaeth ar gwch ger arfordir Cyprus.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Cyprus fod y cwch gymharol fychan, sydd “yn debygol” o fod wedi dod o Syria, yn cludo tua 300 o ffoaduriaid, y mwyafrif yn ferched a phlant.
Mae’r cwch wedi ei lleoli tua 50 milltir oddi ar arfordir Paphos a chredir ei bod wedi mynd i drafferthion oherwydd tywydd garw.
Cafodd llong y Salamis Cruise Lines, oedd yn dychwelyd i Gyprus o Ynysoedd Groeg, gyfarwyddyd i newid trywydd ac ymuno yn yr ymgyrch i geisio achub y ffoaduriaid.
Mae miloedd o bobol sy’n ffoi oddi wrth y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol i Ewrop wedi marw wrth geisio croesi Mor y Canoldir.