Cardiau pleidleisio
Mae’r heddlu’n ymchwilio i honiadau bod papurau pleidleisio a gafodd eu dychwelyd trwy’r post yn ystod refferendwm yr Alban wedi cael eu darllen yn anghyfreithlon.

Yn ôl cwyn a gafodd ei chyflwyno i’r Comisiwn Etholiadol, roedd unigolion o ymgyrch Better Together wedi cadw cofnod o nifer y bobol oedd wedi pleidleisio ‘Na’ wrth i’r papurau ddod i law.

Daeth y gweithgarwch anghyfreithlon honedig i sylw’r unigolyn yn dilyn sylwadau gan arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, Ruth Davidson ynghylch pa mor addawol oedd y papurau roedden nhw wedi eu gweld yn ystod y broses samplu.

Mae rhai o’r papurau’n cael eu gwirio yn ystod y broses er mwyn gwirio bod y manylion personol yn cyfateb i gofnodion swyddogol.

Yn ôl Deddf Refferendwm Annibyniaeth yr Alban 2013, roedd yn rhaid i bapurau gael eu cadw â’u hwyneb i lawr heb i unrhyw un allu gweld pa ffordd roedd yr unigolyn wedi pleidleisio.

Mae hawl gan gynrychiolwyr o’r ddwy ochr fod yn bresennol wrth i’r papurau gael eu cyfri, ond nid oes hawl ganddyn nhw ddarllen y papurau.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Alban bod ymchwiliad ar y gweill.