Matthew Tvrdon
Mae adroddiad gan yr Arolygiaeth Iechyd wedi dweud nad oedd modd rhagweld y byddai Matthew Tvrdon wedi mynd ati i ladd cerddwraig yng Nghaerdydd yn 2012.
Cafodd Karina Menzies ei tharo gan fan Tvrdon wrth iddi gerdded ar bafin gyda’i phlant yn Elái ar Hydref 19, 2012.
Cafodd 17 o bobol eraill eu hanafu wrth i Tvrdon yrru ei fan yn wyllt yn y brifddinas.
Cafwyd Tvrdon yn euog o ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei bwyll.
Roedd Tvrdon yng ngofal Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro rhwng 2003 a 2012 gan ei fod yn “seicotig” ac yn cam-drin sylweddau.
Roedd wedi gwrthod cymryd moddion yn ystod y flwyddyn cyn y digwyddiad.
Cafodd ei anfon i ysbyty seiciatrig dair gwaith yn 2007 oherwydd ei ymddygiad, ond dywed yr adroddiad ei fod wedi gwella yn ddiweddarach.
Tra’n cyfaddef nad oedd modd rhagweld beth fyddai’n digwydd ar y diwrnod y bu farw Karina Menzies, dywedodd yr adroddiad fod nifer o wendidau yn y broses o drin Tvrdon.
Nododd yr adroddiad nifer o argymhellion, gan gynnwys:
– Rhoi cynlluniau ar waith rhag ofn bod cyflwr meddyliol cleifion yn dirywio
– Gwella’r broses gyfathrebu rhwng meddygon teulu a thimau gofal iechyd meddwl
– Gwella’r broses o fonitro meddyginiaeth i gleifion iechyd meddwl
– Gwella’r broses o adolygu adnoddau iechyd meddwl yn y gymuned
– Gwella’r broses gyfathrebu rhwng y bwrdd iechyd a theuluoedd cleifion